Cwmni Cyfieithu
Mae Cyfieithu Cymunedol yn gwmni cyfieithu proffesiynol sy'n prysur fynd o nerth i nerth.
Rydym ni'n ymfalchïo yn ein cyfieithu naturiol a'n gwasanaeth cyfeillgar. Ein nod wrth gyfieithu testun yw llunio dogfen sy'n darllen fel darn o Gymraeg gwreiddiol yn hytrach na chyfieithiad o ddogfen Saesneg. Ein nod wrth gyfieithu ar y pryd yw galluogi siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg i gyfarfod â'i gilydd gan ddefnyddio eu hiaith gryfaf mewn awyrgylch rhwydd a didramgwydd.
Rydym ni'n rhannu swyddfa gyda Menter Iaith Conwy yn Llanrwst, y dref farchnad hanesyddol yn Nyffryn Conwy sydd ar odre mynyddoedd Eryri.
Sefydlwyd y cwmni yn 2003 gyda'r bwriad o wella'r defnydd o'r Gymraeg yn yr ardal ac annog sefydliadau i gynnig gwasanaethau dwyieithog.
Yn ddelfrydol rydym ni'n gobeithio, nid yn unig cynnig gwasanaeth cyfieithu cymunedol, ond hefyd bod yn fodd i ysbrydoli Cymry dihyder i ddefnyddio a gloywi eu hiaith, a'r di-Gymraeg i'w dysgu hi a'i siarad hi.
Cliciwch ar y dolenni uchod i wybod mwy amdanom ni, ein gwasanaethau cyfieithu a'n cyrsiau cyfieithu a gloywi iaith.



